Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ebrill 2013
Adroddiad ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil
Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)
1. Ar 25 Hydref 2012, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn nodi 22 Chwefror 2013 fel dyddiad cau i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ystyried yr egwyddorion cyffredinol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) ac adrodd arnynt.
2. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 10 Mai 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
3. Ar 12 Mawrth 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes i newid y dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 i 21 Mehefin 2013, yn unol â Rheol Sefydlog 26.8, er mwyn caniatáu rhagor o amser i gyflwyno gwelliannau yn dilyn adroddiad Cyfnod 1.